Text  Description automatically generated

Ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i effaith y costau cynyddol ar y sefydliadau o fewn ei bortffolio.

 

Rydym yn croesawu’r cyfle hwn i dynnu sylw’r Pwyllgor at y pwysau allweddol sydd ar allu’r diwydiant cyhoeddi i gynnal ei allbwn a datblygu ei wytnwch yn wyneb costau cynyddol.

 

Pa effaith y mae’r costau byw cynyddol wedi’i chael ar eich sefydliad a’ch sector hyd yn hyn?

·       Mae sawl cyhoeddwr wedi cysylltu â ni, yn enwedig y rhai sy’n cyhoeddi cylchgronau, i dynnu sylw at y cynnydd mewn costau papur a chostau dosbarthu a’r effaith bosibl ar eu gallu i gynnal eu cylchoedd cyhoeddi. Ers cychwyn y Coronafeirws yn 2020, mae pris mwydion coed, sy’n cael eu defnyddio fel deunydd crai ar gyfer cynhyrchu papur ac sy’n cael eu masnachu fel nwydd rhyngwladol, wedi codi o £500 y dunnell i £750–£900 yn y farchnad fyd-eang. Ond pan ddechreuodd y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin ar 24 Chwefror, gwelwyd cynnydd arall o 20–25%. Oherwydd y cynnydd sydyn mewn siopa ar-lein, mae’r galw am ddeunyddiau pacio wedi cynyddu’n aruthrol ac wedi rhoi pwysau ychwanegol ar bris papur.

 

·       Mae ein Canolfan Ddosbarthu yn cael ei rhedeg fel busnes nid-er-elw hunan-gyllidol, gyda’r holl elw’n cael ei ail-fuddsoddi drwy sybsideiddio gwasanaethau dosbarthu ar gyfer cyhoeddwyr yng Nghymru. Mae’r cynnydd yn y costau a nodir isod yn effeithio’n uniongyrchol ar y cymorthdaliadau sydd ar gael i’r sector llyfrau.

·       Ers Ebrill 2022, mae costau dosbarthu gan gludwyr wedi cynyddu 10% ar gyfartaledd.

·       Cynyddodd costau deunyddiau pacio 7% ym mis Mai 2022.

·       Mae costau tanwydd ein fflyd o gerbydau wedi cynyddu’n sylweddol.

 

·       Er nad oedd yn cael ei ariannu gan y Cyngor Llyfrau, bydd dod â The National i ben yn cael effaith ganlyniadol ar awduron a chyfranwyr ac yn cael effaith hefyd ar blwraliaeth y ddarpariaeth newyddion. Rydym yn disgwyl ymateb ffurfiol gan Newsquest ynghylch sut y gall y newid materol hwn o ran capasiti effeithio ar gytundeb masnachfraint Corgi Cymru.

 

·       Canfu arolwg gan gylchgrawn y Bookseller ym mis Mai 2022 mai ‘goroesi’n unig yr oedd y staff cyhoeddi, yn hytrach na ffynnu’, ac adroddodd y Book Trade Charity fod y galw am grantiau wedi cynyddu’n aruthrol oherwydd yr argyfwng costau byw.

 

Pa effeithiau ydych chi’n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich sefydliad a’ch sector? I ba raddau y bydd yr effeithiau hyn yn anghildroadwy (e.e. cau lleoliadau, yn hytrach na chyfyngu dros dro ar weithgareddau)?

·       Mae’r rhan fwyaf o gyhoeddwyr cylchgronau yn fusnesau meicro mewn lleoliadau gwledig. Nid yw’r gyllideb ar gyfer cylchgronau wedi ei chynyddu ers dros ddeng mlynedd sy’n golygu bod y cyllidebau o dan bwysau eisoes, cyn yr argyfwng hwn. Heb lawer o fodd i amsugno’r cynnydd mewn costau papur a dosbarthu, bydd cylchgronau’n wynebu penderfyniadau anodd ynghylch pa mor aml y gallant gyhoeddi neu a oes modd iddynt fforddio cyhoeddi o gwbl.

 

·       Mae’r sefyllfa hon yn un ansicr iawn i gylchgronau Cymraeg sydd â llai o botensial o ran nifer y darllenwyr a’r farchnad ar eu cyfer. Yn wahanol i’r farchnad Saesneg lle gall darllenwyr barhau i fwynhau detholiad eang o gyhoeddiadau, nifer cyfyngedig o gylchgronau Cymraeg sydd ar gael ac mae risg uchel o golli’r ddarpariaeth bresennol. Mae cylchgronau yn bwynt mynediad pwysig i siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn gwbl rugl, ac i ddysgwyr y Gymraeg nad oes ganddynt, efallai, yr hyder i ddarllen cynnwys mwy estynedig yng nghyfnod cynnar eu taith tuag at ddysgu’r iaith.

 

·       Adroddodd y cylchgrawn wythnosol Golwg, gynnydd blynyddol o dros £14.4k mewn costau ar graffu. Mae The Welsh Agenda, a gyhoeddir gan y Sefydliad Materion Cymreig, wedi nodi cynnydd o 23% yn eu costau argraffu a chynnydd o 4% yn eu costau dosbarthu.

 

·       Daw llyfrau a chylchgronau o dan ‘wariant dewisol’ ac wrth i incwm gwario grebachu mae risg gwirioneddol i werthiant a thanysgrifiadau, fel y gwelir eisoes yn y gostyngiad yng ngwariant defnyddwyr dros fisoedd yr haf. Gallai hyn effeithio ymhellach ar allu cyhoeddwyr i gynnal busnesau hyfyw.

 

·       Yn fewnol, mae’r Cyngor Llyfrau ar dariff busnes sefydlog tan 31 Mawrth 2023, ond bydd cost ynni yn cynyddu deirgwaith o’r pris presennol. Oherwydd y buddsoddiad mewn ffotofoltäeg yn y Ganolfan Ddosbarthu mae’r defnydd o drydan yn weddol ysgafn. Fodd bynnag, bydd costau gwresogi dros y gaeaf (nwy ac olew) yn effeithio’n fwy ar y gyllideb gyda’r gwariant blynyddol cyfredol ar gyfer y ddau safle yn treblu o £29,000 i £87,000.

 

·       Mae 75% o gyllideb graidd y Cyngor Llyfrau yn cael ei wario ar gyflogau. Ar sail trafodaethau’r gyda’r undebau, rydym yn rhagweld cynnydd sylweddol gan fod cyflogau cyfartalog ein sefydliad yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru. Rydym yn amcangyfrif y bydd y setliad tâl arfaethedig (£1,945 i holl aelodau’r staff neu godiad cyflog o 4.04%, pa un bynnag yw’r uchaf) yn costio £71,914.

 

·       Roedd y grant craidd yn £1.1m yn 2005 ac mae’n parhau yn £1.1m yn 2022/23. Mae’r gyllideb wedi sefyll yn ei hunfan am 17 mlynedd heb ystyried cynnydd chwyddiant mewn termau real, a fyddai’n cyfateb i £1.57m yn 2021 (cyn y twf cyflym mewn chwyddiant). Gweler Atodiad A am ragor o fanylion. Heb gynnydd i’n cyllideb graidd, byddai’n rhaid cael gwared ar o leiaf ddwy swydd. Byddai hyn yn arwain at dorri gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd gan nad oes, yn sgil yr ad-drefnu yn 2021, unrhyw gapasiti mewnol i amsugno’r colledion hyn. Ac mae hyn yn digwydd ar adeg pan mae angen mwy fyth o gefnogaeth a chyngor ar y diwydiant cyhoeddi er mwyn ei alluogi i gynnal ei waith.

 

Pa ymyriadau yr hoffech eu gweld gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Derynas Unedig?

·      Gan fod cyhoeddi yn fusnes elw isel, gall symiau cymharol fach gael effaith anghymesur ar y sector. Hoffem i Lywodraeth Cymru ystyried adolygu lefelau’r grant presennol i’r cyhoeddwyr. Byddem yn arbennig o awyddus i weld cynnydd yn yr arian ar gyfer swyddi a gefnogir, masnachfreintiau cylchgronau, ynghyd â buddsoddiad ychwanegol mewn sgiliau a phrentisiaethau o fewn ein sector.

 

·      Cafwyd ad-drefniad o fewn Cyngor Llyfrau Cymru yn 2021 i wneud arbedion er mwyn parhau’n hyfyw, ond heb dorri ar y gwasanaethau a ddarperir. Tu hwnt i’r cynllun ffyrlo, ni dderbyniwyd unrhyw arian Covid ychwanegol, ond yn hytrach, dosbarthwyd arian brys i’r sector llyfrau. Mae’r sefydliad bellach yn wynebu penderfyniadau i roi’r gorau i rai o’r gwasanaethau craidd i’r diwydiant cyhoeddi a chynyddu rhaglenni llythrennedd, os bydd angen colli rhagor o swyddi er mwyn parhau o fewn y gyllideb. Byddai’r Cyngor Llyfrau yn gwerthfawrogi pe bai Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu ei grant craidd, sydd wedi sefyll yn ei unfan dros y 10 mlynedd diwethaf.

 

·      Cefnogaeth wedi’i thargedu ar gyfer llyfrwerthwyr annibynnol a chyhoeddwyr yn sgil y cynnydd yng nghostau ynni, papur a dosbarthu, e.e. toriadau i TAW a threthi busnes.

 

I ba raddau y mae’r effeithiau a ddisgrifiwch yn wahanol ar bobl â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?

·       Drwy ein Cronfa Cynulleidfaoedd Newydd, rydym wedi gallu cyrraedd y grŵp mwyaf ethnig amrywiol o dderbynwyr grant hyd yma ac wedi gallu cefnogi prosiectau arloesol a rhai sydd ‘â mwy o risg’ o fewn cylch gorchwyl y grant craidd presennol. Gall y pwysau eithafol ar gyllidebau olygu na fydd modd cefnogi prosiectau o’r fath a gefnogir drwy’r gronfa, nad ydynt yn rhan o’n busnes craidd. Mae’n bosibl hefyd na fydd dau gyhoeddwr newydd, sy’n cael eu harwain gan bobl o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, yn gallu cael y cymorth llawn sydd ei angen arnynt i ddatblygu eu busnesau ymhellach.

 

Mae gan y Cyngor Llyfrau hanes hir a llwyddiannus o gefnogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg gan gynulleidfaoedd mwy amrywiol. Bydd yn her i gynnal y cymorth hwn heb y gyllideb i recriwtio a chadw staff addas.

 

·      Mae cyflogau o fewn y sector yn is na’r cyfartaledd Cymreig ac mae gwir berygl y bydd talent yn cael ei cholli gan na fydd aros o fewn y sector neu ddod yn rhan ohono yn ddichonadwy i bobl bellach. Byddai hyn yn creu rhwystrau ychwanegol i bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, sydd eisoes yn cael eu tangynrychioli, rhag ystyried dilyn gyrfa yn y sector.

o the